Gwasanaeth Llesiant Staff yng Nghymru

Mynd â staff y tu hwnt i’r blwch ticio

Mae pawb yn haeddu bod yn iach ac yn ddiogel yn y gwaith. Yn enwedig y rheini sy’n arwain ac yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf. Dyna pam ein bod ni’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru i wella llesiant staff ysgol ar draws Cymru.

Ni all unrhyw un wneud eu gwaith gorau os ydynt yn flinedig yn emosiynol ac yn gorfforol. Os ydych chi eisiau gwneud newid ystyrlon yn eich ysgol, dyma’r lle cywir i chi.

Isod fe welwch ragor am ein:

Mae athrawon a staff ysgol yng Nghymru yn cael effaith enfawr ar gymdeithas. Mae gan ansawdd yr addysg berthynas glir gyda llesiant staff ysgol, sydd yn ei dro yn effeithio ar fywydau plant a phobl ifanc.

Rydym yn uchelgeisiol dros ysgolion Cymru.

Rydym yn rhagweld gweithio gyda phob ysgol yng Nghymru a thywys eu siwrnai tuag at ddiwylliannau diogel yn seicolegol a gweithlu iach yn feddyliol.

Gyda’n cyfuniad unigryw o arbenigedd o fewn addysg ac iechyd meddwl, mae ein tîm o arbenigwyr yn deall yr heriau rydych chi’n eu hwynebu. Byddwn bob amser yn eich blaenoriaethu chi ac iechyd meddwl a llesiant eich staff. Byddwn bob amser yn ymdrechu i gael effaith gadarnhaol, go iawn ar bob ysgol yr ydym yn gweithio â hi.

“Gwrandawodd fy Nghynghorydd Llesiant yn ofalus arnaf i a lle’r oeddwn i’n teimlo’r oedd yr ysgol arni, gan gymryd nodiadau drwy’r amser a gofyn cwestiynau ystyrlon a phryfoclyd a helpodd fi i gasglu fy meddyliau. Yna fe helpodd fi i lunio cynllun ymrwymiad ein hysgol; fe gefnogodd fi gyda’r hyn a fyddai’n rhan o’r cynllun a sut i rannu’r cynllun hwn gyda rhanddeiliaid.”
School leader

 

Mae’n bleser gan Education Support barhau ac ehangu ein gwaith yng Nghymru, diolch i gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn ymrwymedig i weddnewid diwylliannau ysgol, a gwella llesiant staff. Edrychwn ymlaen at weithio gyda chi. 

Ddim yn siŵr lle i ddechrau?

Dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Daw llawer o ysgolion atom ni, gan ystyried llesiant staff yn broblem amhosibl ei datrys. Trwy weithio gyda ni, cewch eich arwain gan arbenigwyr i ddatblygu dulliau wedi’u teilwra ar gyfer eich lleoliad, a chewch eich helpu i fodloni eich gofynion statudol o dan y Dull Ysgol Gyfan.

Gwasanaethau Cefnogi a Datblygu Llesiant
Dysgwch fwy a chofrestrwch
Gwasanaeth Cynghori ar Lesiant
Dysgwch fwy a chofrestrwch
“Y cyfle i siarad â rhywun nad yw’n adnabod yr ysgol, nad yw’n gyfarwydd â’r cyd-destun, ac a all gynnig arweiniad i mi neu fyfyrio ar y problemau yr wyf wedi’u profi, mae hynny’n werthfawr iawn. Felly mae hynny wedi bod yn ffactor o ran gwella fy iechyd meddwl a llesiant.”
Middle leader

 

Welsh Government Logo