Gweithdai: i gefnogi Cynorthwywyr Addysgu a Chynorthwywyr Cymorth Dysgu

Mae Cynorthwywyr Addysgu a Chynorthwywyr Cymorth Dysgu yn sêr yn ein hysgolion. Rydych chi’n gwneud cymaint i gefnogi dysgu; gosod y desgiau, sychu dagrau, meithrin hyder, sgwrsio a meithrin perthnasau. Mae hyn ar ben sicrhau bod dysgu’n digwydd.

Rydym yn eich clywed chi

Trwy siarad â Chynorthwywyr Addysgu a Chynorthwywyr Cymorth Dysgu yng Nghymru, gwyddom fod rhai ohonoch yn ei chael hi’n anodd. Dyna pan ein bod wedi datblygu nifer o weithdai am ddim wedi’u cynllunio’n benodol i’ch cefnogi chi a’ch rheolwyr llinell.

Bydd y rhain yn eich helpu chi i deimlo’n iach er mwyn i chi allu bodloni’r heriau yr ydych chi’n eu hwynebu’n ddyddiol. 

Beth fyddwn ni’n ei drafod?

Mae ein cyfres o weithdai pwrpasol yn canolbwyntio ar gefnogi iechyd meddwl a llesiant o fewn y themâu canlynol:

  • Gofalu amdanoch chi
  • Grymuso’ch hun
  • Cysylltu â’ch synnwyr diben
  • Gofalu am eich Cynorthwywyr Addysgu - ar gyfer rheolwyr llinell Cynorthwywyr Addysg a Chynorthwywyr Cymorth Dysgu

Mae rhagor o fanylion am y gweithdai unigol yn dod yn fuan

Pam mynychu?

Bydd y gweithdai hyn yn eich helpu i feithrin hunan-effeithiolrwydd a chadernid a darparu ffyrdd i gefnogi’ch llesiant.

Byddwch chi’n cael awgrymiadau ymarferol i roi’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu ar waith, ac ar yr un pryd yn mynd i’r afael â’r heriau yr ydych chi’n eu hwynebu’n ddiwylliannol megis; diffyg amser yn y dydd, teimlo nad oes neb yn gwrando arnoch ac yn methu, neu heb gael y cyfle, i godi unrhyw bryderon.

Rydym eisiau’ch cefnogi chi i fod iach er mwyn i chi ffynnu yn eich bywyd personol a gwaith a pharhau i ddarparu cefnogaeth amhrisiadwy i blant yn eich ysgol.

Beth fydd yn digwydd? 

Bydd y sesiynau rhyngweithiol hyn yn cael eu cyflwyno ar-lein gan hyfforddwyr cymwys gydag arbenigedd o fewn addysg ac iechyd meddwl.

Byddan nhw hyd at ddwy awr o hyd ar gyfer grwpiau o hyd at 30 o bobl.

Anelwn at godi’ch dealltwriaeth o iechyd meddwl a llesiant a chynnig awgrymiadau ymarferol er mwyn i chi weithredu a symbylu newid.

Camau nesaf

Mae’r gweithdai hyn am ddim diolch i gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Mae’r lleoedd yn gyfyngedig felly anfonwch e-bost at Staffwellbeingservice@edsupport.org.uk i fynegi’ch diddordeb!

Wellbeing Advisory Service
Wellbeing Advisory Service
Wellbeing Support and Development Services
Wellbeing Support and Development Services