Delio â gwahaniaeth: pam nad yw perthnasoedd yn y gweithle bob amser yn hawdd

Mae Leonie Hurrell yn trafod sut y gall athrawon a staff addysg deimlo eu bod wedi'u cysylltu a'u cefnogi trwy berthnasoedd cymdeithasol cadarnhaol yn y gwaith.

Articles / 6 mins read

Fel bodau dynol rydym yn naturiol yn greaduriaid cymdeithasol. Gall hyn fod yn arbennig o wir am bobl sy'n gweithio ym myd addysg sy'n aml yn eu disgrifio eu hunain yn 'bobl pobl'.

Mae seicolegwyr yn cydnabod bod yr awydd i deimlo'n gysylltiedig ag eraill yn angen dynol sylfaenol. Mae perthnasoedd rhyngbersonol yn cael effaith sylweddol ar ein hiechyd meddwl, ein hymddygiad a'n hiechyd corfforol (Umberson & Montez, 2010). Mae hyn yr un mor wir yn ein bywydau personol a phroffesiynol. Yn fyr, mae perthnasoedd gwaith da yn bwysig iawn.

Rydym wedi ein gwifrio i fod yn ymatebol iawn i ryngweithio cymdeithasol, pan fyddwn yn cysylltu mae'r ymennydd yn rhyddhau ocsitosin, hormon pwerus y gwelir ei fod yn lleihau straen ac yn hyrwyddo twf ac iachâd. Mewn cyferbyniad llwyr, gall cysylltiadau negyddol rhwng ein cydweithwyr (a nodweddir gan ddrwgdeimlad, gwaharddiad, neu osgoi) achosi anhapusrwydd, straen ac anfodlonrwydd â’n swydd. Mewn peth ymchwil, awgrymwyd pan fydd unigolion yn profi poen cymdeithasol yn y gweithle (rhag teimlo'n ynysig, er enghraifft) bod rhanbarth yr ymennydd sy'n cael ei actifadu yr un un â phan brofir poen corfforol. (Dunbar 1998)

Mae'n hanfodol felly, ar gyfer ein lles, hapusrwydd ac effeithiolrwydd cyffredinol ein hunain, ein bod yn teimlo'n gysylltiedig ac yn cael ein cefnogi drwy berthnasoedd cymdeithasol cadarnhaol yn y gwaith.

Deall ein perthnasoedd

Yn debyg i unrhyw berthnasoedd rhyngbersonol, mae'r rhai a ffurfir yn y gweithle yn amrywio o ran ansawdd. Bydd rhai pobl bob amser yn ymddangos yn haws i dynnu ymlaen yn dda gyda nhw, tra gall eraill fod yn fwy o her. Mae hyn yn rhan arferol o fywyd, ond nid yw hynny'n golygu na fydd yn effeithio arnom ni.

Weithiau gallwn ddod ar draws cydweithiwr na allwn uniaethu ag ef mewn gwirionedd neu sy'n ein cythruddo ac yn ein llesteirio.  Er y gall fod yn demtasiwn osgoi cyswllt â chydweithiwr fel hwn, rydym mewn perygl o gynyddu lefelau o elyniaeth a all gael effaith ddinistriol ar ein perthnasoedd gwaith.

Sut allwn ni adeiladu perthnasoedd sy'n ffynhonnell cyfoethogi a fydd yn ein galluogi ni a'n hysgolion i ffynnu? 

Mae gwyddoniaeth y tu ôl i ddeall ein perthnasoedd. Daw perthnasoedd da yn y gweithle o gael dealltwriaeth gywir ohonom ni ein hunain ac eraill. Os ydym am adeiladu perthnasoedd gwell gyda chydweithwyr, yn y pen draw mae'n dechrau gyda ni.

Gwahanol fathau o bersonoliaeth

Offeryn gwych ar gyfer cydnabod ein hoffterau a'n nodweddion personoliaeth ein hunain yw'r asesiad personoliaeth a berchir, DISC®. Mae DISC® wedi ei adeiladu ar sail 40 mlynedd o ymchwil ac wedi cefnogi 40 miliwn o bobl ledled y byd gyda'u hunanymwybyddiaeth a'u cysylltiadau.  Mae'n ein galluogi i’n deall ein hunain fel y gallwn feithrin cysylltiadau dilys a chynhyrchiol ag eraill ac yn ein helpu i wybod, er ein bod yn ymddwyn yn 'wahanol', y gallwn ddewis deall 'gwahaniaeth' yn well.

Mae DISC® yn cydnabod, er ein bod yn wahanol, ein bod yn rhagweladwy wahanol. Ydych chi wedi sylwi bod yr athro ystafell ddosbarth mwy emosiynol a chymdeithasol yna’n codi gwrychyn arweinydd ysgol sydd â ffocws cryf ac sy’n hynod o uniongyrchol? Mae'r ddau yn dod â llawer iawn o werth i'r ysgol ac i fywydau'r plant, ond nid yw'r naill na'r llall yn deall sut mae eu personoliaethau yn gyson wahanol, na sut i gael y gorau allan o’i gilydd. Mae DISC® yn offeryn gwych ar gyfer helpu i ddeall ein gwahaniaethau ac addasu ein rhyngweithiadau wrth symud ymlaen. 

Mae pedwar prif fath o bersonoliaeth DISC® maent i gyd naill ai'n Weithredol neu'n Oddefol ac yn Canolbwyntio ar Dasgau neu'n Canolbwyntio ar Bobl. O’u cyfuno mewn gwahanol ffyrdd, byddwch yn cael person sy’n ymateb yn sylweddol wahanol i sgwrs, aseiniad, tasg neu amgylchedd penodol. Mae pedwar priffath o bersonoliaeth DISC®:

Y math “D” Dominyddol - (Gweithredol ac yn Canolbwyntio ar Dasgau) Unigolyn allblyg’, sy’n canolbwyntio ar dasgau a fydd â ffocws ar gyflawni pethau, cyflawni tasgau, cyrraedd y nod cyn gynted â phosibl a gwneud i bethau ddigwydd.  Yr allwedd i ddatblygu perthynas gyda'r person hwn yw eu bod am gael eu parchu ac angen canlyniadau.  Wrth gyfathrebu â 'mathau D' mae'n bwysig cofio eu bod yn hoffi uniongyrchedd, gonestrwydd a ffocws ar y canlyniad terfynol.

Y math “I” Ysbrydoledig - (Gweithredol ac yn Canolbwyntio ar Bobl) Unigolyn allblyg, sy'n canolbwyntio ar bobl sydd wrth ei fodd yn rhyngweithio, cymdeithasu a chael hwyl. Mae'r person hwn yn canolbwyntio ar yr hyn y gall eraill feddwl ohono ef neu hi. Mae'r math 'I' yn greadigol ac yn llawn syniadau a phositifrwydd. Y mewnwelediad allweddol wrth ddatblygu perthynas gyda'r person 'math I' yw eu bod ynhoffi cael eu cydnabod am eu syniadau a'u canmol am eu hymdrechion.

Y math “S” Cefnogol - (Goddefol ac yn Canolbwyntio ar Bobl) Unigolyn swil, sy'n canolbwyntio ar bobl a fydd yn mwynhau perthnasoedd, yn helpu neu’n cefnogi pobl eraill ac yn cydweithio fel aelod o dîm.  Mae'r person hwn yn ffyddlon ac yn hoffi diogelwch yr hyn sy’n hysbys. Y mewnwelediad allweddol wrth ddatblygu perthynas gyda'r person 'math S' yw bod yn gyfeillgar ac o’r iawn ryw, maent yn hoffi i eraill fod yn feddylgar a'u deall.

Y math “C” gofalus - (Goddefol ac yn Canolbwyntio ar Dasgau) Bydd unigolyn swil, sy'n canolbwyntio ar dasg yn ceisio cysondeb a gwybodaeth o ansawdd. Mae'r person hwn yn canolbwyntio ar fod yn gywir a manwl. Mae'r math 'C' yn mwynhau'r manylion ac yn gallu hoffi i bethau fod yn berffaith. Y mewnwelediad allweddol wrth ddatblygu perthynas gyda'r unigolyn hwn yw bod yn rhesymegol a diplomyddol. 

The DISC® model

Mae model DISC® yn fframwaith gwych ar gyfer deall pobl.  Nid yw DISC® yn ddiagnosis nac yn ffordd o 'labelu' rhywun, ond mae'n offeryn ar gyfer deialog a sut i gael y gorau gan bobl.

Derbyn a chofleidio gwahaniaethau

Mae deall sut bobl ydym ni yn bwysig os ydyn ni'n mynd i adeiladu perthnasoedd cadarnhaol. Er enghraifft, rwy'n berson allblyg yn naturiol, 'math I', sydd wrth ei fodd yn siarad, bod gyda phobl a chael syniadau. Mae angen i mi fod yn ymwybodol fodd bynnag, y gall hyn ymddangos yn hy ac y gallai yrru mwy o bobl 'math S' i mewn i'w cragen. Rwy'n gwybod hynny a gallaf addasu'n gynnil i gadw ein rhyngweithiadau i weithredu'n dda. 

Fodd bynnag, wrth weithio gyda rhywun sy'n canolbwyntio mwy ar fanylder, yn 'fath C', efallai y byddant yn gweld fy syniadau cyflym, sgyrsiol yn dân ar eu croen, yn yr un modd efallai y byddaf yn gweld eu ffocws ar fod angen gwybodaeth fanwl yr un mor rhwystredig.  Yn hytrach na bod yn rhwystredig, rwyf bellach yn deall bod angen cywirdeb a chynllunio gofalus person 'math C' arnaf i wneud i'm syniadau weithio. Rwy'n cydnabod y gallaf weithio gyda fy nghydweithwyr i wneud i bethau ddigwydd yn fwy llwyddiannus na phe bawn yn eu rhoi ar waith ar fy mhen fy hun, gan groesawu'r gwahaniaeth y gall cydweithwyr eraill ei gynnig. Pan ddeallaf y bydd rhywun yn ymddwyn yn wahanol i mi a'm disgwyliadau, gallaf dderbyn a chroesawu'r gwahaniaethau hynny.

Mae angen pob math o bobl i redeg ysgol, a meithrin perthynas dda gyda'r ystod o blant sydd ynddi. Os yw rhywun yn wahanol i ni, nid yw'n golygu bod un yn iawn a'r llall yn anghywir. Nid yw ychwaith yn golygu na allwn gydweithio a chael perthynas waith lewyrchus. Trwy ddeall ein hunain ac eraill gallwn weithio ar gael y gorau o'n perthnasoedd o ddydd i ddydd, a fydd yn helpu pawb i fod mor hapus â phosibl.

“Nid ein gwahaniaethau sy'n ein rhannu. Ein hanallu i gydnabod, derbyn a dathlu'r gwahaniaethau hynny sy’n gwneud hynny.”
Audre Lorde

Mae Leonie Hurrell yn gyn-bennaeth gyda dros 15 mlynedd o brofiad fel uwch arweinydd. Ers cwblhau ei chymhwyster hyfforddi ILM yn 2015, sefydlodd Leonie The Thinking Academy sy’n darparu hyfforddiant cydnabyddedig ILM a chymorth hyfforddi un i un mewn ysgolion ledled Lloegr. Mae hi wedi gweithio fel Hwylusydd Addysgol llawrydd yn arbenigo mewn datblygu arweinyddiaeth, diwylliant dysgu, lles emosiynol a hyfforddi. Mae hi'n cefnogi darpar benaethiaid ar raglenni arweinyddiaeth CPCP yn rheolaidd fel Hyfforddwr cymeradwy ac mae hi'n Aelod cyswllt o'r elusen Cymorth Addysg, sy'n cefnogi iechyd meddwl athrawon yn y DU. 

Helpline
Helpline
Financial assistance
Financial support