Tair strategaeth i reoli straen: athrawon a staff addysg
Mae Arweinydd CA2 Bethan Ware yn rhannu'r hyn y mae'n ei wneud i helpu i reoli ei lefelau straen.
Articles / 3 mins read
Gwyddom fod llawer o'r straen y mae athrawon a staff addysg yn ei brofi yn cael ei achosi gan faterion systemig ac weithiau’r meddylfryd diwylliannol mewn rhai ysgolion. Ond mae rhai strategaethau o hyd y gallwn ni fel unigolion eu defnyddio i helpu i reoli ein straen o ddydd i ddydd o fewn y cyd-destun hwn.
Nid yw’r strategaethau hyn yn mynd i weithio i bawb. Ond mae rhannu’r pethau rwy’n tueddu i’w gwneud sy’n fy helpu i reoli fy straen, yn gallu, gobeithio, gwneud gwahaniaeth i athrawon eraill a staff addysg.
- Gwnewch gynllun cwadrant
Rwy'n cael trafferth ofnadwy gyda llwyth meddyliol fel athrawes ac arweinydd. I ddelio â'r llwyth hwnnw rwy'n defnyddio cynllun cwadrant. Mae fel rhestr draddodiadol o bethau i’w gwneud ond wedi'i rhannu'n bedwar. Bydd sut rydych chi'n rhoi teitl i bob cwadrant yn wahanol i bawb. Fy nheitlau yw:
- pethau i’w gwneud fel athrawes ddosbarth
- pethau i’w gwneud fel arweinydd
- pethau i’w gwneud yn y cartref
- pethau i’w gwneud gyda’r teulu
Mae hyn yn fy helpu i rannu pob un o'r gwahanol bethau sy'n rhuthro trwy fy ymennydd ac yn lleihau fy lefelau straen. Er enghraifft, os ydw i'n gwneud rhywbeth gyda fy nheulu, ac rwy'n meddwl “o, mae'n rhaid i mi wneud y CDU yna a siarad â hwn a hwn”, gallaf ei wneud yn fy nghwadrant o bethau i'w gwneud fel arweinydd. Trwy wneud hynny, rydw i wedi ei gydnabod, mae'n cael ei ychwanegu at fy rhestr, ond rydw i'n ôl ac yn bresennol gyda beth bynnag rydw i'n ei wneud ar hyn o bryd.
- Gosod ffiniau a dweud na
Rhywbeth sy'n hanfodol ond yn anodd ei wneud, yw gosod ffiniau a dweud na. Nid yw yn ein natur ni fel addysgwyr i ddweud “na” - rydym yn tueddu i ddweud “ie” i bopeth. Mae gennym y ddeialog gyson yn ein pennau “ond mae ar gyfer y plant, rhaid i mi ei wneud ar gyfer y plant”.
Ond mae angen i chi wirio gyda chi'ch hun, a gwneud yn siŵr eich bod chi'n gollwng gafael ar bethau sy'n mynd i achosi i chi losgi allan. Nid oes unrhyw beth o'i le ar amddiffyn eich hun. Hefyd, fel arweinydd, rwy'n gwirio gyda staff i drafod a ydyn nhw'n ymgymryd â gormod. Mae hyn yn helpu i sicrhau eu bod yn gallu rheoli eu llwyth gwaith heb gynyddu eu lefelau straen.
Mae Brian Dyson, Prif Swyddog Gweithredol Coca-Cola, yn siarad am gael peli gwydr a pheli rwber mewn bywyd. Mae angen i chi feddwl: beth yw eich peli gwydr? A beth yw eich peli rwber? Felly, pan fyddwch yn jyglo pob un o'r peli hyn, meddyliwch pa beli gwydr sydd angen i mi ganolbwyntio arnynt, oherwydd os byddaf yn eu gollwng, byddant yn torri, ac yna ystyriwch pa beli rwber gallwch adael yn rhydd, oherwydd eu bod yn mynd i fownsio i fyny eto.
Rwyf wrth fy modd â'r gyfatebiaeth yna ac rwy'n fy atgoffa fy hun i flaenoriaethu fy mheli gwydr na allaf ollwng gafael arnynt. Mae’n wirioneddol yn fy helpu i osod y ffiniau hynny.
- Perthynas sylfaenol
Mae angen perthynas sylfaenol arnoch, p'un a yw hynny'n bartner, ffrind, aelod o'r teulu neu gydweithiwr. Mae hwn yn berson sy'n rhoi lle i chi fwrw eich bol am yr hyn rydych chi'n ei brofi ar hyn o bryd.
Rydym yn gwybod bod siarad â rhywun yn bwysig — mae'r llinell gymorth Cymorth Addysg yn cynnig hyn hefyd.
Pan fyddwch chi'n siarad â rhywun, mae hyn yn rhoi cyfle i chi archwilio'ch teimladau a chydnabod eich emosiynau.
Mae angen rhywun arnoch i wrando arnoch chi; i'ch helpu i weld y darlun ehangach; i roi caniatâd i chi roi lle i chi'ch hun pan fyddwch chi'n cael trafferth.
Rwyf wrth fy modd â dyfyniadau ac un o fy ffefrynnau yw: “Os na chymerwch seibiant, bydd natur yn ei wneud i chi.” Mae'n hanfodol fel athro/athrawes ac addysgwr i gael y partner hwnnw i roi'r persbectif hwnnw a chaniatáu i chi gael seibiant pan fydd ei angen arnoch.
Mae Bethan Ware yn Arweinydd CA2 mewn ysgol gynradd yng Nghymru. Mae hi'n rhedeg @tenminuteteach ar Instagram.
Rydym yn darparu llinell gymorth gyfrinachol am ddim. Gallwch ffonio 24/7 am gefnogaeth emosiynol: 08000 562 561. Peidiwch ag aros nes bod pethau'n wirioneddol anodd i chi neu’n argyfwng cyn i ffonio'r rhif yna. Wrth gwrs gallwch alw bryd hynny ond mae'n bwysig iawn efallai ein bod ni'n eich cefnogi yn gynharach os ydych chi mewn trafferthion.
Don’t wait for a crisis to call.
We’ll offer you immediate, emotional support.
08000 562 561
Our confidential grants service is here to help you manage money worries.
Everyone occasionally needs help. Our friendly, experienced team is here to support you.
Sign up to our newsletter for the latest mental heath and wellbeing resources, news and events straight to your inbox.