Menopôs yn y gweithle

Mae llawer o fenywod sy'n gweithio ym myd addysg yn ei chael hi'n anodd delio â symptomau'r menopôs. 

Mae ein canllaw yn edrych ar sut y gall athrawon a staff addysg ofalu amdanynt eu hunain a’u cydweithwyr a’r hyn y gall ysgolion ei wneud i gefnogi staff yn effeithiol. 

Guides / 1 munud i ddarllen read

Mae’r rhan fwyaf o fenywod yn profi rhai neu bob un o symptomau’r menopôs ar ryw adeg yn eu bywydau, fel arfer rhwng 45 a 55 oed. Mae astudiaethau amrywiol wedi dangos y gall profi’r menopôs a’r symptomau cysylltiedig gael effaith fawr yn ac ar y gweithle. Mae'r sector addysg yn cynnwys menywod yn bennaf.
Mae cefnogi pawb sy’n gweithio mewn ysgolion tra byddant yn mynd drwy’r menopôs, angen bod yn flaenoriaeth i bob ysgol.

Er gwaethaf niferoedd y bobl sy’n mynd drwy’r menopôs  yn y sector addysg, anaml iawn y caiff ei drafod ac nid oes gan lawer o bobl unrhyw ymwybyddiaeth o’r hyn y mae’n ei olygu. Mae hyn wedi arwain llawer o fenywod i guddio symptomau ac i osgoi gofyn am gymorth. Nid mater o oedran neu ryw yn unig yw menopôs - gall effeithio ar staff yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, a dylid ei ystyried yn fater cydraddoldeb ar draws y sefydliad.

Bydd ein canllaw yn egluro:

  • Beth yw'r menopôs?
  • Beth yw'r symptomau?
  • Sut i ofalu amdanoch chi'ch hun os ydych chi'n profi'r menopôs
  • Sut i gadw llygad ar gydweithwyr
  • Yr hyn y gall arweinwyr ysgol ei wneud i gefnogi staff yn effeithiol

Lawrlwythwch ein canllaw

Helpline
Helpline
Financial assistance
Financial support