Gofalu am ein cwsg

Mae’r gweminar am ddim yn cynnig cyfoeth o awgrymiadau ymarferol a gwybodaeth yn seiliedig ar ymchwil i athrawon a staff addysg ar sut i gefnogi cwsg a llesiant yn gyffredinol.

Videos / 60 mins watch

 

 

 

 

Gwyddom o'n Mynegai Llesiant Athrawon diweddaraf fod staff ysgolion yn profi mwy o symptomau iechyd meddwl gwael. Yn ôl y mynegai, yr un mwyaf cyffredin o’r rhain yw insomnia, gyda 57% o uwch arweinwyr, 51% o athrawon ysgol a 48% o staff cymorth yn dweud mai hwn yw’r symptom amlycaf. Gwyddom fod gan gwsg gwael ystod o sgil-effeithiau, er enghraifft ar lefelau siwgr yn y gwaed, a’i fod ynddo’i hun yn cyfrannu at broblemau iechyd meddwl.

Er mwyn helpu i fynd i'r afael â rhai o'r materion hyn, cynhaliwyd gweminar 'Looking after our sleep' yn cynnwys Kerry Davies o Sleep Charity. Rhannodd gyfoeth o awgrymiadau ymarferol a gwybodaeth yn seiliedig ar ymchwil ar sut i gefnogi cwsg a llesiant cyffredinol.

Dyma rai o'r pynciau allweddol a drafodwyd:

  • Pam mae athrawon a staff addysg yn profi lefelau uwch o insomnia ar hyn o bryd?
  • Beth yw effaith diffyg cwsg ar ein hiechyd a'n llesiant?
  • Pa strategaethau ymarferol allwch chi eu defnyddio ar hyn o bryd i wella’ch cwsg fel athro neu aelod o staff addysg?
"Diddorol iawn. Diolch yn fawr...byddwn wrth fy modd yn cael sesiwn arall!"
Myychwr Gweminar

Gweminar o bwys i athrawon a staff addysg sy'n profi cwsg gwael neu sydd eisiau cefnogi cydweithwyr gyda'u problemau cysgu eu hunain. Gwyliwch nawr:

Awgrymiadau da ar gyfer gwella’ch cwsg

1

Pylwch y golau

Mae pylu’r goleuadau 2 awr cyn amser gwely yn helpu’ch ymennydd i gynhyrchu melatonin (y 'cemegyn cysgu') gan gynyddu awydd cwsg. Yn yr un modd, bydd troi’r gwres i lawr a gostwng tymheredd craidd eich corff yn eich helpu i syrthio i gysgu. 


2

Diffoddwch bethau

Gall gormod o amser sgrin, yn enwedig cyn y gwely, gyfrannu at anhawster wrth syrthio i gysgu. Ceisiwch gyfyngu ar y teledu a'r cyfryngau cymdeithasol cyn mynd i'r gwely er mwyn osgoi syrthio i 'dwll sgrolio'.


3

Mwynhewch y gwawrio

Mae amlygiad i ddim ond 4 munud o olau'r haul y peth cyntaf yn y bore yn atal melatonin (y 'cemegyn cwsg’) yn ein cyrff ac yn rhoi hwb i'n 'hormonau dydd' (cortisol).


4

Gosodwch drefn ddyddiol

Bydd diffyg trefn arferol yn effeithio ar eich rhythm circadian (cloc cysgu). Mae'n bwysig iawn dweud wrth eich corff beth i'w wneud a phryd i'w wneud. Bydd bwyta a mynd i gysgu ar yr un pryd bob dydd yn helpu i reoleiddio cloc cysgu.  

 


5

Cyfyngwch ar eich cymeriant 

Dylech osgoi caffein 8 awr a bwyd 2 awr cyn cysgu. Er y gall alcohol eich helpu i syrthio i gylch cysgu dwfn yn gynt, mae’n dwyn eich cwsg breuddwydion sy'n hanfodol ar gyfer eich iechyd meddwl a'ch llesiant.


5

Crëwch noddfa gysgu

Dylai eich ystafell wely fod yn noddfa gysgu. Os yw'n bosibl, ceisiwch beidio â gweithio o'ch amgylchedd cysgu - neu o leiaf peidiwch â marcio llyfrau o'r gwely! Crëwch ardal weithio ar wahân a buddsoddi mewn matres gyfforddus os oes posib.


Helpline
Helpline
Financial assistance
Financial support