Grym bregusrwydd mewn arweinyddiaeth
Yn y gorffennol roedd bregusrwydd yn aml yn cyfateb i wendid. Heddiw, yn aml, mae’n cael ei weld fel un o’r rhinweddau mwyaf hanfodol ar gyfer arweinyddiaeth dda a gall helpu arweinwyr ysgol ac addysgwyr i feithrin ymddiriedaeth ac ysbrydoli eu timau.
Articles / 6 munud i ddarllen read
Bregusrwydd: gair y diwrnod, tair sill, a all wneud i arweinwyr ysgol ac athrawon dosbarth grynu. Beth yw’r obsesiwn modern gyda chyfleu'r cyfan, a bod yn gyfforddus yn crio yn gyhoeddus?
Yn ffodus, mae ychydig yn fwy cynnil na hynny. Wedi'i ddeall yn gywir, gall fod yn gysyniad eithaf defnyddiol i arweinwyr ysgol ac addysgwyr i helpu i feithrin ymddiriedaeth ac ysbrydoli eu timau.
Mae bregusrwydd wedi esblygu
Yn y dyddiau a fu, roedd y cysyniad o fregusrwydd yn aml yn cyfateb i wendid. Fodd bynnag, mae wedi cael ei ail-fframio i arddangos cryfder yn y byd sydd ohoni. Mae'n cael ei ystyried yn aml fel un o'r priodoleddau pwysicaf ar gyfer arweinyddiaeth dda.
Mae'r awdur Madeleine L'Engle yn tynnu sylw at y naratif cyfnewidiol hwn pan mae hi yn ysgrifennu:
"Pan oedden ni’n blant, roedden ni’n arfer meddwl pan oedden ni wedi tyfu i fyny, ni fyddem bellach yn fregus. Ond mae tyfu i fyny yn golygu derbyn bregusrwydd... Mae bod yn fyw yn golygu bod yn fregus."
Felly, beth pe byddem yn dweud wrthych fod doethineb confensiynol wedi gwneud camgymeriad. Beth pe baem yn dweud wrthych fod bregusrwydd, mewn gwirionedd, yn un o'r asedau mwyaf i arweinyddiaeth?
Felly, beth mae hyn i gyd yn ei olygu?
Mae bregusrwydd wedi'i gysylltu'n gynhenid â dewrder. Mae'r ymchwilydd a'r storïwr Brené Brown yn arwain y ffordd ar sut mae bregusrwydd yn creu gwell arweinwyr.
Mae Brené Brown yn rhesymu mai bregusrwydd yw'r ffordd fwyaf cywir o fesur dewrder gan ei fod yn galluogi ymchwilwyr i fesur eich diffyg ofn. Mae hi'n dadlau y gallwn fesur pa mor ddewr ydych chi yn ôl pa mor fregus rydych chi'n fodlon bod.
Fel bodau dynol, mae Brené Brown yn datgan mai ein hofn dyfnaf yw cywilydd oherwydd credwn y bydd yn ein datgysylltu oddi wrth ein cyfoedion, gan arwain at unigedd. Felly, gall yr ofn o golli cysylltiad dynol ein hannog i beidio â bod yn fregus. Ac eto, mae Brené Brown yn dadlau bod bregusrwydd yn hanfodol ar gyfer perthnasoedd dyfnach ac arweinyddiaeth dda, y mae hi'n ei ddiffinio fel y dewrder i wynebu "ansicrwydd, risg ac amlygiad emosiynol."
Felly, nid gor-rannu yn y gwaith ydyw?
Dim o gwbl. Nid tryloywder eithafol yn unig yw bregusrwydd.
“Oes rhaid i mi grio yn y swyddfa i ddangos fy ochr feddalach i fy ngweithwyr?” "Ydy hi'n ddewr dweud wrth y dosbarth cyfan pa mor ansicr ydw i ynglŷn â'r smotyn yna ar fy nhrwyn reit cyn cyflwyniad mawr?"
Wel, ydy ac nac ydy! Er nad ydym yn argymell ffrwydradau emosiynol rheolaidd yn yr ysgol, neu fynd ymlaen am eich problemau domestig, mae rhywfaint o fod yn agored (o fewn y ffiniau cywir) yn arwain at fwy o ymddiriedaeth.
Iawn, ond sut?
Mae ein rheol gyffredinol yn weddol syml ar hyn: os oes gennych chi deimladau byw heb eu datrys am fater neu sefyllfa, mae'n debyg nad yw'n un i'w rannu. Er y gall bregusrwydd fod yn ddyneiddiol ac yn gysylltiol, ni ddylai staff deimlo bod angen iddynt gysuro neu gefnogi eu rheolwr llinell.
Cofiwch, nid oes angen i'ch tîm wybod manylion eich trafferthion perthynas, ond fe allech chi sôn eich bod chi'n mynd trwy sefyllfa bersonol straenus os yw'n dechrau effeithio ar eich gwaith. Bydd hynny’n helpu’ch tîm i’ch deall a gallai eu helpu i deimlo tosturi yn hytrach na rhwystredigaeth os ydych chi’n ymddwyn ychydig yn wahanol i’r arfer. Bydd hefyd yn eu grymuso i rannu pan fyddant yn wynebu materion personol tebyg ac estyn allan am gefnogaeth.
Nid oes rhaid i chi rannu maint llawn eich syndrom twyllwr gyda'ch tîm, ond efallai y byddwch chi’n troi at gydweithiwr tîm, sydd â maes arbenigedd penodol, am gymorth a chyngor ar rywbeth rydych chi’n cael trafferth ag ef. Bydd hyn yn helpu i greu diwylliant cefnogol ac yn caniatáu i aelodau'ch tîm deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.
Efallai na fyddwch chi'n teimlo'n gyfforddus yn rhannu diagnosis diweddar o iselder, ond efallai y byddwch yn rhannu eich bod yn teimlo ychydig yn ‘wastad’ neu gyda lefelau egni isel ar hyn o bryd. Gallai hynny roi’r dewrder sydd ei angen ar athro dosbarth nerfus i ddatgelu eu teimladau eu hunain o bryder, gan greu diwylliant diogel i drafod iechyd meddwl a hunanofal.
Efallai y byddwch chi'n rhannu pan wnaethoch chi wirioneddol gael trafferth gydag ymddygiad dosbarth penodol. Gallai hyn helpu i agor sgwrs gyda’ch staff am reoli ymddygiad a’i effeithiau ar lesiant unigolion.
Pan fyddwch chi'n onest â'ch cydweithwyr a'ch cyfoedion ynghylch pwy ydych chi, byddant yn naturiol yn teimlo cysylltiad dyfnach a mwy dilys â chi.
Iawn, mae hynny i gyd yn swnio'n wych. Ond alla i ddim wynebu ychwanegu mwy o bethau i fy rhestr o bethau i'w gwneud. Mae angen i chi fy argyhoeddi y bydd yn fy helpu i fod yn well arweinydd!?
Mae hwn yn gwestiwn teg! Pwy yn ein plith sydd eisiau ychwanegu rhywbeth arall at ein rhestr o bethau i'w gwneud? A'r peth olaf rydyn ni'n ei argymell yw cystadleuaeth i fod yr arweinydd mwyaf bregus.
Ond os gwnewch chi le i ddangos rhywfaint o fregusrwydd pan mae wir yn cyfrif, efallai y gwelwch chi'r baich o fod yn berffaith bob amser yn cael ei godi. Gallai rhannu rhywbeth yr oeddech yn cael trafferth ag ef, mewn cyfarfod tîm, helpu i gadarnhau’r ewyllys da sydd ei angen i wneud cais gan gydweithiwr mewn cyd-destun mwy heriol.
Mae hyn yn rhoi cyfleoedd newydd i chi gofleidio pwy ydych chi, ac yn union pwy yw'r person sydd yn troi i fyny i'r gwaith bob dydd. Gall hyn helpu i leihau'r llwyth a'ch helpu i weld eich rhestr ddiddiwedd o bethau i'w gwneud, gyda phersbectif ffres – a mwy realistig.
Diddorol! Felly, sut gall y peth bregusrwydd yma helpu fy nhîm?
Gall bregusrwydd helpu eich tîm mewn sawl ffordd:
- Mae diogelwch a llesiant seicolegol yn cael eu gwella mewn amgylcheddau lle mae bregusrwydd yn cael ei fodloni â phositifrwydd ac yn cael ei wobrwyo. Mae hyn yn arwain at "ddiwylliannau cynhwysol a pherfformiad uchel."
- Pan fydd pobl yn gweld dilysrwydd a dewrder arweinydd, maent yn teimlo rhyddid i wneud yr un peth, gan wella'r teimlad o berthyn.
- Mae bregusrwydd gweithredol yn grymuso pobl i siarad eu gwirionedd ac, yn ei dro, yn creu amgylchedd ysgol well i bawb. Bregusrwydd, wedi'r cyfan, yw'r gwrthwenwyn mwyaf i elyniaeth, a phan fyddwch chi'n dangos bregusrwydd yn ystod sgyrsiau anodd, mae amddiffyniad yn aml yn cael ei ddiarfogi.
- Mae'n galluogi timau i fynd i'r afael â phroblemau gyda mwy o eglurder, rhagwelediad a chyflymder. Mae'n haws datrys problemau pan nad yw pobl yn ceisio cuddio gwallau bach, neu pan fyddant yn gallu bod yn agored am fod angen mwy o wybodaeth.
- Meithrin gwell perthnasoedd ac annog pobl i ofyn am help pan fydd ei angen arnynt. O ganlyniad, gall hyn arwain at fwy o arloesi a chydweithio gwell ymhlith aelodau'r tîm.
- Llai o straen a chefnogaeth fwy arwyddocaol pan fydd pawb yn teimlo'n ddiogel i rannu sut maen nhw'n teimlo neu'r hyn maen nhw'n cael trafferth ag ef. Mae ymchwil hefyd wedi dangos bod cysylltiad yn meithrin teyrngarwch.
Mae'r siaradwr a'r awdur ysbrydoledig Simon Sinek yn atseinio sut mae mynegi bregusrwydd mewn arweinyddiaeth yn dangos eich bod yn wirioneddol ddynol:
"Mae arweinydd, yn gyntaf oll, yn fod dynol. Dim ond pan fydd gennym y cryfder i ddangos ein bregusrwydd allwn ni wirioneddol arwain."
Fel arweinydd, gallwch ddangos bregusrwydd trwy:
- Gwrando'n weithredol ar eich cyfoedion a chanolbwyntio ar y weithred o wrando a deall yn hytrach na chael yr holl atebion cywir.
- Cyfaddef pan fyddwch wedi gwneud camgymeriad a bod yn ddigon dewr i ddweud, "Roeddwn i'n anghywir."
- Cofleidio eiliadau o ansicrwydd a cheisio dod o hyd i’r potensial, hyd yn oed os yw hynny’n golygu gofyn am help.
- A siarad eich gwirionedd (yn garedig), hyd yn oed os gallai ypsetio rhai, oherwydd eich bod yn gwybod y bydd o fudd i'r sefydliad a'r tîm.
Ffynonellau
- https://www.leaderfactor.com/psychological-safety
- https://www.excel-communications.com/vulnerability-why-it-is-a-leadership-strength-not-a-weakness/
- https://www.mindstrength.com.au/blog/the-importance-of-showing-vulnerability-as-a-leader
Transform how your Welsh school approaches staff mental health and wellbeing. Access fully funded expert advice from a regional school wellbeing advisor.
Our Wellbeing Support and Development Services provide in-depth opportunities to keep your staff feeling motivated, engaged and effective in their roles.
There’s a range of learning and reflection routes to choose from which have been developed and tailored with direct input from school staff.