Amgylcheddau ffisegol i gefnogi iechyd meddwl a lles staff
Gall elfennau naturiol fel planhigion helpu i gysylltu staff ysgol â’r byd y tu allan a chreu amgylchedd gweithle tawelach. Mae gwyrdd yn effeithiol iawn i leddfu straen!
Guides / 1 munud i ddarllen read
Buddsoddwch mewn ychydig o blanhigion
Mae seicoleg lliw wedi dangos bod gwyrdd yn lliw sy'n gwella hwyliau ac mae'n hysbys ei fod yn effeithiol iawn i leddfu straen, felly mae cyfuno natur â'r lliw gwyrdd o fantais i bawb! Beth am gysylltu â'ch canolfan arddio leol i weld a fyddent yn fodlon rhoi rhai planhigion i chi?
Creu bwrdd ffotograffau
Defnyddir byrddau ysgol ar gyfer llawer o bethau, felly beth am greu bwrdd llesiant i staff ychwanegu lluniau ato o’u hoff wledydd, traethau, parciau a mannau awyr agored? Mae peth ymchwil yn awgrymu bod edrych ar ddelweddau o natur yn unig yn ddigon o ysgogiad ‘naturiol’ i leihau lefelau straen. Mae hon yn ffordd wych o ddod â'r awyr agored i mewn!
Gadewch i'r awyr iach lifo
Gall ansawdd aer mewn gweithle, yn enwedig tra bod heintiau coronafirws yn dal yn uchel, gael effaith sylweddol ar iechyd staff ac yn ei dro cynhyrchiant. Un ffordd syml o adael i'r awyr iach lifo yw annog agor ffenestri. Ond nid mater o adael i’r aer lifo o’r tu allan yn unig mo hyn, dylech chi hefyd feddwl am sut i leihau unrhyw lygryddion o fewn amgylchedd yr ysgol. Gall hyn gynnwys llygryddion o:
- Boeleri a generaduron
- Systemau aerdymheru
- Offer garddio
- Ceginau a ffreuturau
Gall y fframwaith aer glân i ysgolion eich helpu i feddwl am sut yr ydych yn mynd i’r afael â hyn a rhai o’r pethau y gallech fod am eu hystyried, o ran yr amgylchedd mewnol ond hefyd yr effaith ehangach a gaiff ysgolion ar lefelau llygredd.
Amlygiad i olau dydd naturiol
Mae astudiaethau (1) o olau yn y gweithle wedi dangos yn gyson bod golau’r haul yn cael effeithiau cadarnhaol ar les goddrychol gweithwyr; a bod yn well gan weithwyr weithio ger ffenestri neu mewn mannau gwaith gyda golau naturiol. Lle bo modd, dylai staff fod yn agored i olau dydd naturiol. Lle nad yw hyn yn bosibl, dylid rhoi cyfleoedd digonol i staff fynd allan a'u hannog i wneud hynny. Os nad oes gan adeilad eich ysgol lawer o fynediad at olau dydd naturiol, dylech ystyried y canlynol:
- P'un a ydych yn gwneud y mwyaf o'r golau naturiol sydd gennych, er enghraifft symudwch ddodrefn mawr, swmpus sy'n rhwystro unrhyw olau haul.
- Cymryd i ystyriaeth yr angen i staff gael awyr iach wrth ddyrannu gwaith ac amserlenni.
- Y posibilrwydd o ychwanegu ffenestri to.
- Darparu lampau Anhwylder Affeithiol Tymhorol (SAD) ar gyfer unrhyw staff yr effeithir arnynt gan yr anhwylder hwn, sydd fel arfer yn dechrau yn yr hydref neu'r gaeaf ac yn gwella yn y gwanwyn. Mae lampau SAD yn cynhyrchu goleuadau llachar iawn i ail-greu golau haul y bore y mae pobl yn ei golli yn ystod misoedd y gaeaf.
- (Leather, Pyrgas, Beale & Lawrence, 1998; Oldham & Fried, 1987; Wang & Boubekri, 2009; Yildirim et al 2007)
Lawrlwythwch ein canllaw
Transform how your Welsh school approaches staff mental health and wellbeing. Access fully funded expert advice from a regional school wellbeing advisor.
Our Wellbeing Support and Development Services provide in-depth opportunities to keep your staff feeling motivated, engaged and effective in their roles.
There’s a range of learning and reflection routes to choose from which have been developed and tailored with direct input from school staff.
Sign up to our newsletter!
Get the latest wellbeing resources, events and news straight to your inbox.