Datblygu strategaeth dechnoleg i gefnogi lles staff
Guides / 3 mins read
Mae technoleg yn ased anhygoel i addysgwyr, gan gynnig ffyrdd arloesol o gyfleu gwybodaeth ac ysbrydoli myfyrwyr. Serch hynny, pan gaiff ei gadael heb ei gwirio, gall greu diwylliant o deimlo bod yn rhaid i chi fod ar gael bob amser.
Os yw technoleg yn amharu ar eich bywyd personol chi a'ch staff, mae'n bwysig gweithredu. Pa strategaeth sydd gan yr ysgol ar waith ar hyn o bryd i gefnogi staff? Efallai bod eich cydweithwyr yn teimlo wedi eu gorlethu i’r un graddau â chi! Nid oes angen iddo fod yn achos o bwyntio bys neu fai. Sut allwch chi i gyd weithio gyda'ch gilydd i wneud pethau'n well i bawb? Defnyddiwch ein cwestiynau isod i helpu i lywio neu adnewyddu strategaeth dechnoleg i gefnogi lles staff yn eich ysgol.
Peidiwch ag anghofio y bydd angen iddo addasu a thyfu wrth i'r dechnoleg newid yn anochel yn eich ysgol. Defnyddiwch y ddogfen hon i ymgorffori arferion gorau, cefnogi eich gilydd ac atgoffa rhieni o'ch polisïau cyfathrebu.
Rhai pethau i'w hystyried fel rhan o'ch strategaeth dechnoleg:
1.
Pa bolisïau cyfathrebu sydd gennych ar waith? A yw rhieni, staff a disgyblion yn ymwybodol ohonynt?
Gallwch ei gwneud yn glir i rieni nad yw cael polisïau cyfathrebu llym yn golygu eich bod yn anfodlon cydweithredu â nhw. Os oes amgylchiadau personol esgusodol sy’n atal myfyriwr rhag bod yn y dosbarth ar amser, rydych yn agored i drafod y sefyllfa â'r rhiant wrth gwrs, ond dim ond mewn man ac ar amser priodol.
2.
Pryd oedd y tro diwethaf i chi rannu disgwyliadau cyfathrebu gyda chymuned yr ysgol?
Ceisiwch rannu eich disgwyliadau cyfathrebu gyda chymuned yr ysgol ar ddechrau'r flwyddyn academaidd. Mae hyn yn gosod ffin glir h.y. rhoi gwybod i rieni pan fydd oriau cyfathrebu'n dod i ben. Os nad ydych wedi dechrau'r flwyddyn gyda'r wybodaeth hon, gellir ei rhannu’n ddiweddarach yn y flwyddyn.
3.
Beth yw eich protocol e-bost?
Gall cael arweiniad ar sut rydych chi'n cyfathrebu â chydweithwyr yn fewnol wneud gwahaniaeth enfawr. Ydych chi'n cael llawer o negeseuon e-bost yn cael eu hanfon y tu allan i oriau gwaith arferol yr ysgol? Os nad oes angen ateb tan y diwrnod gwaith nesaf, a ddylai'r derbynnydd ymatal rhag ei anfon yn gyfan gwbl? Neu ei nodi’n glir yn yr e-bost ei hun?
4.
Beth am lwyfannau cyfathrebu eraill?
Rydym yn gwybod yn y dirwedd ôl-bandemig bod mynychder grwpiau Whatsapp wedi dod yn fwyfwy poblogaidd ymhlith cydweithwyr ac arweinwyr. Gall y grwpiau hyn ychwanegu pwysau ychwanegol i wneud i chi deimlo bod yn rhaid i chi fod ar gael drwy’r amser. Oes gennych chi bolisi penodol ar waith ynghylch y math hwn o gyfathrebu?
5.
Beth ddylai staff ei wneud os ydynt yn teimlo eu bod yn cael eu haflonyddu gan rieni, myfyrwyr neu gydweithwyr?
Er enghraifft, ni ddylid defnyddio offer dysgu ar-lein i aflonyddu ar athrawon. A yw athrawon a staff addysg yn gwybod beth i'w wneud os yw rhiant yn dechrau gosod gofynion afresymol arnynt ar bob adeg o'r dydd? Gwnewch hi'n glir yn eich strategaeth at bwy y gallant droi am gefnogaeth a'r camau y dylent eu dilyn.
6.
Pa mor aml y byddwch yn adolygu'r strategaeth hon?
Fel y soniwyd uchod, mae technoleg yn newid - ac yn gyflym. Pa mor aml ydych chi'n bwriadu adolygu'r ddogfen hon a sicrhau ei bod yn dal i fod yn addas at y diben? Rydym yn awgrymu eich bod yn ailedrych ar y strategaeth hon o leiaf unwaith bob blwyddyn academaidd. Hefyd, cofiwch fod angen iddi fod yn hygyrch i holl staff eich ysgol.
Dyma rai awgrymiadau mwy cyffredinol y gallech fod eisiau eu hystyried er mwyn lleihau ymyrraeth technoleg a llwyth gwaith i chi a'ch staff:
- Atgoffwch rieni i gadw at oriau swyddfa athrawon yn ystod cyfarfodydd, digwyddiadau ysgol a gwasanaethau.
- Blaenoriaethwch les emosiynol athrawon a'u hatgoffa am fynediad at ein gwasanaethau cwnsela pan fo angen.
- Datblygwch strategaeth glir ar gyfer lleihau meddylfryd 'sydd ar gael bob amser' yn yr ysgol.
- Cyfathrebwch â staff a rhieni yn agored am ffiniau a disgwyliadau athrawon o ran cyfathrebu ar ôl oriau.
- Cynhaliwch weithdai gosod ffiniau gyda staff a'u helpu i wireddu eu nodau.
- Byddwch â pholisi drws agored (yn ystod oriau ysgol) lle gall addysgwyr a staff addysgu rannu eu pryderon.
- Modelwch arfer da. Mae eich staff yn arsylwi ar yr hyn rydych yn ei wneud a byddant yn gweithredu, neu'n teimlo bod angen iddynt weithredu, yn unol â hynny. Os ydych chi'n anfon e-byst yn hwyr yn y nos, byddan nhw hefyd. Os byddwch chi'n troi eich hun i ffwrdd ar y penwythnosau, byddan nhw hefyd!
Ffynonellau adnoddau:
- https://www.independent.co.uk/news/uk/teachers-patrick-roach-nasuwt-mental-health-first-aid-birmingham-b2059623.html
- https://psychcentral.com/blog/why-having-work-email-on-your-phone-is-bad-for-you#1
- https://primaryperfectionist.com/setting-boundaries/
- https://www.educationsupport.org.uk/media/uenogeia/pressure-on-middle-leaders.pdf
- https://www.nhs.uk/every-mind-matters/mental-health-issues/stress/
- https://www.educationsupport.org.uk/resources/for-individuals/guides/getting-the-right-work-life-balance/
- https://www.teachertoolkit.co.uk/2017/02/09/leave-me-alone/
- https://www.teachertoolkit.co.uk/2018/11/12/email-protocol-for-schools/
- https://www.nasuwt.org
Our service provides emotional and practical support that helps you and your colleagues thrive at work.
Fully funded professional supervision for school and FE college leaders in England.