Dod â llesiant i mewn i fywyd bob dydd

Fel arweinydd ysgol, a ydych chi wedi normaleiddio sgyrsiau am iechyd meddwl a llesiant?

Guides / 2 funud i ddarllen read

Dyma bum awgrym da i chi. 

Defnyddiwch nhw ar y cyd â'r cyngor yn y canllawiau hyn:

1.

Llesiant o'r cychwyn cyntaf - siarad amdano wrth recriwtio

Mae cynnwys datganiad am iechyd meddwl a llesiant staff mewn hysbysebion recriwtio yn ffordd wych o ddangos i ddarpar recriwtiaid bod yr ysgol yn gwerthfawrogi, ac yn cefnogi, ei staff. Mae hefyd yn nodi’r bwriad y byddwch yn blaenoriaethu llesiant staff ac yn gallu ychwanegu mantais gystadleuol wrth recriwtio athrawon rhagorol, a staff ysgol eraill. Wrth gwrs, gosod allan y bwriad yw’r cam cyntaf… dilyn drwodd ar y bwriad hwn yw’r cam pwysicaf.


2.

Dechreuwch siarad mewn sesiynau sefydlu

Mae cynnwys sgyrsiau am iechyd meddwl a llesiant fel rhan o sesiynau sefydlu staff yn creu lle i staff fod yn agored, o’r cychwyn cyntaf. Fel rhan o’r cyfnod sefydlu dylech ystyried: 

  • Hysbysu ymrwymiad yr ysgol i gefnogi iechyd meddwl a llesiant staff
  • Trafod cynllun a pholisïau iechyd meddwl a llesiant staff eich ysgol
  • Rhannu unrhyw wybodaeth gyfeirio a gwybodaeth am gefnogaeth sydd ar gael i staff
  • Annog  aelodau staff i gwblhau Cynllun Gweithredu Llesiant

3.

Annog y defnydd o Gynlluniau Gweithredu Llesiant

Mae Cynlluniau Gweithredu Llesiant yn ffordd hawdd ac ymarferol i staff gefnogi eu hiechyd meddwl eu hunain yn y gwaith ac i reolwyr helpu i gefnogi iechyd meddwl aelodau tîm. Dylai Cynlluniau Gweithredu Llesiant fod yn wirfoddol i’w cwblhau ac nid oes unrhyw ffyrdd cywir neu anghywir o’u cwblhau, fodd bynnag mae eu cynnig i aelodau staff yn gam pwysig i’w hannog i fod yn agored am unrhyw beth y gallent fod angen cymorth ag ef. Dylai Cynlluniau Gweithredu Llesiant (CGL) gael eu hadolygu'n rheolaidd rhwng staff a'u rheolwyr llinell.


4.

Canolbwyntiwch ar lesiant mewn cyfarfodydd 1:1

Yn aml iawn pan ddaw i gyfarfodydd 1:1, gall rheolwyr ganolbwyntio ar fod eisiau siarad am y ‘gwaith’ yn unig, ond mae’n bwysig cydnabod mai sgyrsiau gyda staff yw’r gwaith. Mae hyn yn arbennig o bwysig pan ddaw’n fater o gefnogi eu hiechyd meddwl a’u llesiant. Gall cychwyn cyfarfodydd 1:1 gyda staff gyda ‘sut ydych chi?’ neu ‘a oes unrhyw beth yn eich poeni?’ helpu i agor sgwrs sydd ddim yn canolbwyntio ar y ‘gwaith yn unig.’


5.

Ychwanegu llesiant at agendâu cyfarfodydd

Dylai iechyd meddwl a llesiant staff fod yn rhan safonol o gyfarfodydd rheolaidd megis cyfarfodydd adran, cyfarfodydd uwch arweinwyr a byrddau ysgol. Gallwch ddefnyddio technegau syml fel y raddfa 1-10, lle gall staff sgorio eu hunain a rhoi rheswm dros eu sgôr. Mae’n bwysig cydnabod efallai na fydd yr holl staff yn gyfforddus yn gwneud hyn o fewn sefyllfa tîm, felly mae gosod ffiniau a chaniatáu i bobl ‘eithrio’ o roi sgôr yn bwysig. O ran cyfarfodydd uwch arweinwyr a bwrdd ysgol, dylai adolygiad o gynllun iechyd meddwl a llesiant staff fod yn eitem dreigl ar yr agenda.


Support your staff every day

Our Employee Assistance Programme (EAP) is a package of emotional and practical support that helps you and your colleagues to thrive at work. 

There is a feeling that it’s available for everybody and they can get support for all kinds of daily issues. The real benefit is that it has produced a feeling of wellbeing around the school.
Heather, Headteacher Blakesley Hall
Wellbeing Advisory Service
Wellbeing Advisory Service
Wellbeing Support and Development Services
Wellbeing Support and Development Services