Offeryn cylch rheolaeth, dylanwad a phryder

Mae diffyg rheolaeth a dylanwad yn aml yn cael ei ddyfynnu gan athrawon a staff addysg fel rhywbeth sy’n effeithio’n negyddol ar eu hiechyd meddwl. A allwn ni wella sut rydym yn teimlo trwy newid ein persbectif ar yr hyn na allwn ei reoli?

Guides / 1 munud i ddarllen read

Nid oes unrhyw amheuaeth bod gan y rhai sy'n gweithio ym myd addysg swyddi prysur a meddyliau prysur.
Mae hyn yn aml yn ychwanegol i fywydau personol prysur.

Nododd ein Mynegai Llesiant Athrawon 2020 fod staff ysgolion yn teimlo eu bod wedi’u llethu, ac o dan straen. Yn ogystal â phwysau’r swydd, mae’r pandemig COVID-19 wedi cynyddu’r pwysau ar athrawon a staff addysg.

Gall fod camsyniad, po fwyaf y byddwn yn ei wneud, y mwyaf y byddwn yn ei gyflawni. Drwy wneud mwy, gallwn leddfu ein pwysau gwaith neu deimladau o gael ein llethu.

Ond fe all amser ddod pan fydd tasgau a gofidiau yn dechrau pentyrru. Mae pwysau ein rhestr o bethau i'w gwneud yn mynd yn rhy drwm. Gallwn ysgafnhau'r baich trwy symud ein ffocws oddi wrth y gofynion sy'n gwneud i ni deimlo'n bryderus, tuag at ein hymatebion i'r gofynion hynny.

Mae defnyddio'r offeryn cylch rheolaeth, dylanwad a phryder yn ffordd ddefnyddiol o symud y ffocws hwnnw trwy ddeall yr hyn y mae gennym y pŵer i ddylanwadu a'r hyn sydd allan o'n rheolaeth.

Employee Assistance Programme
Employee Assistance Programme
School leaders' support
School leaders' support